nic, (edited ) Welsh Mae fy mhartner yn athrylith.
Rydyn ni wedi bod heb fwrdd yn yr ardd gefn ers i’r hen un (ffeindiwyd mewn sgip!) gwympo’n racs ar ôl blynyddoedd maith o wasanaeth.
Heddiw, mae hi wedi adeiladu hwn ma’s o sgrapiau pren oedd yn y sied.
Ddim y bwrdd mwya pert yn y byd, ond yn gadarn iawn.